No themes applied yet
1Ystyriais hyn i gyd, a chanfod bod y rhai cyfiawn a doeth â'u gweithredoedd yn llaw Duw, ac na ŵyr neb p'run ai cariad ai casineb sy'n ei aros. 2Yr un peth sy'n digwydd i bawb—i'r cyfiawn a'r drygionus, i'r da a'r drwg9:2 Felly Fersiynau. Hebraeg heb a'r drwg., i'r glân a'r aflan, i'r un sy'n aberthu a'r un nad yw'n aberthu. Y mae'r daionus a'r pechadur fel ei gilydd, a'r un sy'n tyngu llw fel yr un sy'n ofni gwneud hynny. 3Dyma sy'n ddrwg yn y cyfan a ddigwydd dan yr haul: mai'r un peth yw tynged pawb. Y mae calon pobl yn llawn drygioni, a ffolineb yn eu calonnau ar hyd eu bywyd, ac yna y maent yn marw. 4Y mae gobaith i'r un a gyfrifir ymysg y byw; oherwydd y mae ci byw yn well na llew marw. 5Y mae'r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw'r meirw yn gwybod dim; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna'r cof amdanynt. 6Yn wir y mae eu cariad, a'u casineb a'u cenfigen eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.
7Dos, bwyta dy fwyd mewn llawenydd, ac yf dy win â chalon lawen, oherwydd y mae Duw eisoes yn fodlon ar dy weithredoedd.
8Gofala fod gennyt ddillad gwyn bob amser, a chofia roi olew ar dy ben. 9Mwynha fywyd gyda'r wraig yr wyt yn ei charu, a hynny yn ystod holl ddyddiau dy fywyd gwag a roddodd ef iti dan yr haul, oherwydd dyma yw dy dynged mewn bywyd, ac yn y llafur a gyflawni dan yr haul. 10Beth bynnag yr wyt yn ei wneud, gwna â'th holl egni; oherwydd yn Sheol, lle'r wyt yn mynd, nid oes gwaith na gorchwyl, deall na doethineb.
11Unwaith eto, dyma a sylwais dan yr haul: nid y cyflym sy'n ennill y ras, ac nid y cryf sy'n ennill y rhyfel; nid y doethion sy'n cael bwyd, nid y deallus sy'n cael cyfoeth, ac nid y rhai gwybodus sy'n cael ffafr. Hap a damwain sy'n digwydd iddynt i gyd. 12Ni ŵyr neb pa bryd y daw ei amser; fel y delir pysgod mewn rhwyd ac adar mewn magl, felly y delir pobl gan amser adfyd sy'n dod arnynt yn ddisymwth.
Doethineb a Ffolineb
13Dyma hefyd y ddoethineb a welais dan yr haul, ac yr oedd yn hynod yn fy ngolwg: 14yr oedd dinas fechan, ac ychydig o bobl ynddi; ymosododd brenin nerthol arni a'i hamgylchynu ac adeiladu gwarchae cryf yn ei herbyn. 15Yr oedd ynddi ddyn tlawd a doeth, ac fe waredodd ef y ddinas trwy ei ddoethineb; eto ni chofiodd neb am y dyn tlawd hwnnw. 16Ond yr wyf yn dweud bod doethineb yn well na chryfder, er i ddoethineb y dyn tlawd gael ei dirmygu, a neb yn gwrando ar ei eiriau.
17Y mae geiriau tawel y doethion yn well na bloedd llywodraethwr ymysg ffyliaid. 18Y mae doethineb yn well nag arfau rhyfel, ond y mae un pechadur yn difetha llawer o ddaioni.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004