No themes applied yet
1“Yn yr amser hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem, 2a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu hôl ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear. 3Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
Pechod a Chosb
4“Dywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“ ‘Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel?
5Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith,
ac y parhaodd Jerwsalem i encilio?
Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd.
6Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn;
nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, “Beth a wneuthum?”
Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.
7Y mae'r crëyr yn yr awyr yn adnabod ei dymor;
y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod;
ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.
8Sut y dywedwch, “Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni”?
Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni.
9Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd.
Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD;
pa ddoethineb sydd ganddynt felly?
10“ ‘Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill,
a'u meysydd i'w concwerwyr.
Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw;
o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
11Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw merch fy mhobl,
gan ddweud, “Heddwch! Heddwch!”—ac nid oes heddwch.
12A oes cywilydd arnynt pan wnânt ffieidd-dra?
Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido.
Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;
yn nydd eu cosbi fe gwympant,’ medd yr ARGLWYDD.
13“ ‘Pan gasglwn hwy,’ medd yr ARGLWYDD,
‘nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren;
gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.’ ”
14Pam yr oedwn? Ymgasglwch ynghyd,
inni fynd i'r dinasoedd caerog, a chael ein difetha yno.
Canys yr ARGLWYDD ein Duw a barodd ein difetha;
rhoes i ni ddŵr gwenwynig i'w yfed,
oherwydd pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD.
15Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni;
am amser iachâd, ond dychryn a ddaeth.
16Clywir ei feirch yn ffroeni o wlad Dan;
crynodd yr holl ddaear gan drwst ei stalwyni'n gweryru.
Daethant gan ysu'r tir a'i lawnder,
y ddinas a'r rhai oedd yn trigo ynddi.
17“Dyma fi'n anfon seirff i'ch mysg,
gwiberod na ellir eu swyno,
ac fe'ch brathant,” medd yr ARGLWYDD.
Gofid Jeremeia dros ei Bobl
18Y mae fy ngofid y tu hwnt i wellhad,8:18 Tebygol. Cymh. Llawysgrifau a Fersiynau. Y frawddeg yn aneglur yn TM.
a'm calon wedi clafychu.
19Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig:
“Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?”
“Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?”
20“Aeth y cynhaeaf heibio, darfu'r haf, a ninnau heb ein hachub.”
21Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo,
wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod.
22Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr?
Pam, ynteu, nad yw iechyd merch fy mhobl yn gwella?
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004