No themes applied yet
Gweddi'r gostyngedig, pan yw'n wan ac yn bwrw ei gŵyn o flaen yr ARGLWYDD.
1ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,
a doed fy nghri atat.
2Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf
yn nydd fy nghyfyngder;
tro dy glust ataf,
brysia i'm hateb yn y dydd y galwaf.
3Oherwydd y mae fy nyddiau'n darfod fel mwg,
a'm hesgyrn yn llosgi fel ffwrn.
4Yr wyf wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt;
yr wyf yn darfod o beidio â bwyta.
5Oherwydd sŵn fy ochneidio
y mae fy esgyrn yn glynu wrth fy nghnawd.
6Yr wyf fel pelican mewn anialwch,
ac fel tylluan mewn adfeilion.
7Yr wyf yn methu cysgu,
ac fel aderyn unig ar do.
8Y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio trwy'r amser,
a'm gwatwarwyr yn defnyddio fy enw fel melltith.
9Yr wyf yn bwyta lludw fel bara,
ac yn cymysgu fy niod â dagrau,
10o achos dy lid a'th ddigofaint,
oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu.
11Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;
yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.
12Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,
a phery dy enw dros y cenedlaethau.
13Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;
y mae'n adeg i dosturio wrthi,
oherwydd fe ddaeth yr amser.
14Y mae dy weision yn hoffi ei meini,
ac yn tosturio wrth ei llwch.
15Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD,
a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.
16Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion,
bydd yn ymddangos yn ei ogoniant;
17bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig,
ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad.
18Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod,
fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD:
19ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd,
i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear,
20i wrando ocheneidiau carcharorion
a rhyddhau'r rhai oedd i farw,
21fel bod cyhoeddi enw'r ARGLWYDD yn Seion,
a'i foliant yn Jerwsalem,
22pan fo pobloedd a theyrnasoedd
yn ymgynnull ynghyd i addoli'r ARGLWYDD.
23Y mae wedi sigo fy nerth ar y daith,
ac wedi byrhau fy nyddiau.
24Dywedaf, “O fy Nuw, paid â'm cymryd yng nghanol fy nyddiau,
oherwydd y mae dy flynyddoedd di dros yr holl genedlaethau.
25“Gynt fe osodaist sylfeini'r ddaear,
a gwaith dy ddwylo yw'r nefoedd.
26Y maent hwy yn darfod, ond yr wyt ti yn aros;
y maent i gyd yn treulio fel dilledyn.
Yr wyt yn eu newid fel gwisg,
ac y maent yn diflannu;
27ond yr wyt ti yr un,
a'th flynyddoedd heb ddiwedd.
28Bydd plant dy weision yn byw'n ddiogel,
a'u disgynyddion yn sicr o'th flaen.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004