No themes applied yet
Gwas yr ARGLWYDD
1Dyma fy ngwas, yr un dw i’n ei gynnal,
yr un dw i wedi’i ddewis ac sydd wrth fy modd i!
Rhof fy ysbryd iddo,
a bydd yn dysgu cyfiawnder i’r cenhedloedd.
2Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais,
nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.
3Fydd e ddim yn torri brwynen fregus
nac yn diffodd llin sy’n mygu.
Bydd e’n dangos y ffordd iawn i ni.
4Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio
nes iddo sefydlu’r ffordd iawn ar y ddaear.
Mae’r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”
5Dyma mae’r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a’i lledu allan, yr un wnaeth siapio’r ddaear a phopeth ynddi, yr un sy’n rhoi anadl i’r bobl sy’n byw arni, a bywyd i’r rhai sy’n cerdded arni:
6“Fi ydy’r ARGLWYDD,
dw i wedi dy alw i wneud beth sy’n iawn,
a gafael yn dy law.
Dw i’n gofalu amdanat ti,
ac yn dy benodi’n ganolwr fy ymrwymiad i bobl,
ac yn olau i genhedloedd –
7i agor llygaid y dall,
rhyddhau carcharorion o’u celloedd,
a’r rhai sy’n byw yn y tywyllwch o’r carchar.
8Fi ydy’r ARGLWYDD, dyna fy enw i.
Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall,
na rhoi’r clod dw i’n ei haeddu i ddelwau.
9Mae’r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir,
a nawr dw i’n cyhoeddi pethau newydd.
Dw i’n gadael i chi glywed amdanyn nhw
cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”
Canu cân o fawl i’r ARGLWYDD
10Canwch gân newydd i’r ARGLWYDD,
canwch ei glod o ben draw’r byd –
chi sy’n hwylio ar y môr, a’r holl greaduriaid sydd ynddo,
a chi sy’n byw ar yr ynysoedd!
11Boed i’r anialwch a’i drefi godi eu lleisiau,
a’r pentrefi lle mae crwydriaid Cedar yn byw.
Canwch yn llawen, chi sy’n byw yn Sela,
a gweiddi’n uchel o ben y mynyddoedd.
12Boed iddyn nhw roi clod i’r ARGLWYDD,
a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.
13Mae’r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr
ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel.
Mae e’n gweiddi – yn wir, mae e’n rhuo
wrth ymosod ar ei elynion.
Duw yn addo helpu ei bobl
14“Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir –
wedi cadw’n dawel, a dal fy hun yn ôl.
Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn,
dw i’n sgrechian a gwingo a griddfan.
15Dw i’n mynd i ddifetha’r bryniau a’r mynyddoedd,
a gwneud i bob tyfiant wywo.
Dw i’n mynd i wneud yr afonydd yn sych,
a sychu’r pyllau dŵr hefyd.
16Dw i’n mynd i arwain y rhai sy’n ddall
ar hyd ffordd sy’n newydd,
a gwneud iddyn nhw gerdded
ar hyd llwybrau sy’n ddieithr iddyn nhw.
Bydda i’n gwneud y tywyllwch yn olau o’u blaen
ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn.
Dyma dw i’n addo ei wneud –
a dw i’n cadw fy ngair.
Methiant Israel i wrando ac i weld
17Bydd y rhai sy’n trystio eilunod
yn cael eu gyrru’n ôl a’u cywilyddio,
sef y rhai sy’n dweud wrth ddelwau metel,
‘Chi ydy’n duwiau ni!’”
18Gwrandwch, chi’r rhai byddar;
ac edrychwch, chi sy’n ddall!
19Pwy sy’n ddall fel fy ngwas,
neu’n fyddar fel y negesydd dw i’n ei anfon?
Pwy sy’n ddall fel yr un dw i wedi ymrwymo iddo?
Pwy sy’n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?
20Er dy fod yn gweld llawer, ti ddim yn ystyried;
er bod gen ti glustiau, ti ddim yn gwrando.
21Roedd yr ARGLWYDD wedi’i blesio ei fod yn gyfiawn,
a’i fod yn gwneud yn fawr o’r gyfraith, ac yn ei chadw.
22Ond mae’r bobl hyn wedi colli popeth:
maen nhw i gyd wedi’u dal mewn tyllau,
a’u carcharu mewn celloedd.
Maen nhw’n ysglyfaeth, a does neb i’w hachub;
maen nhw’n ysbail, a does neb yn dweud, “Rho nhw’n ôl!”
23Pwy sy’n barod i wrando ar hyn?
Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!
24Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio,
a rhoi Israel i’r lladron?
Yr ARGLWYDD, wrth gwrs –
yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn!
Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau,
na bod yn ufudd i’w ddysgeidiaeth.
25Felly dyma fe’n tywallt ei lid arnyn nhw,
a thrais rhyfel.
Roedd y fflamau o’u cwmpas ym mhobman,
ond wnaethon nhw ddim dysgu’r wers.
Cawson nhw eu llosgi,
ond gymron nhw ddim sylw.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015