No themes applied yet
Yr ARGLWYDD yn cyhuddo’i bobl
1Gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Codwch i amddiffyn eich hunain
o flaen y bryniau a’r mynyddoedd!
2Chi fynyddoedd a sylfeini’r ddaear
gwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.”
(Mae’n dwyn achos yn erbyn ei bobl.
Mae ganddo ddadl i’w setlo gydag Israel.)
3“Fy mhobl, beth wnes i o’i le?
Beth wnes i i’ch diflasu chi? Atebwch!
4Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,6:4 a Exodus 12:50,51; b Exodus 4:10-16; c Exodus 15:20
a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision.
Anfonais Moses i’ch arwain,
ac Aaron a Miriam gydag e.
5Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud,6:5 a Numeri 22:2–24:25; b Josua 3:1–4:19
a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb.
Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal6:5 Sittim a Gilgal Sittim oedd gwersyll Israel ar ôl y profiad gyda Balaam, i’r dwyrain o afon Iorddonen (gw. Numeri 25:1; Josua 2:1; 3:1); Gilgal oedd gwersyll Israel pan oedden nhw’n paratoi i ymosod ar Jericho, i’r gorllewin o afon Iorddonen (gw. Josua 4:19–5:12). –
i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi’ch trin yn deg.”
Beth ddylai ymateb y bobl fod?
6Sut alla i dalu i’r ARGLWYDD?
Beth sydd gen i i’w gynnig wrth blygu
i addoli y Duw mawr?
Ydy aberthau i’w llosgi yn ddigon?
Y lloi gorau6:6 lloi gorau Hebraeg, “lloi blwydd oed”, gw. Lefiticus 9:3. i’w llosgi’n llwyr?
Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio,
neu afonydd diddiwedd o olew olewydd?
7Ddylwn i aberthu fy mab hynaf
yn dâl am wrthryfela? –
rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod?
8Na, mae’r ARGLWYDD wedi dweud beth sy’n dda,
a beth mae e eisiau gen ti:
Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,
a byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.
Bydd yr ARGLWYDD yn cosbi’r arweinwyr
9“Gwrandwch!” Mae’r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem –
(Mae’n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.)
“Gwrandwch lwyth Jwda a’r rhai sy’n casglu yn y ddinas!
10Ydw i’n mynd i anwybyddu’r trysorau a gawsoch drwy dwyll,
a’r mesur prin, sy’n felltith?
11Fyddai’n iawn i mi oddef y clorian sy’n dweud celwydd,
a’r bag o bwysau ysgafn?6:10,11 mesur prin … bwysau ysgafn Roedd y Gyfraith roddodd Duw yn galw am gyfiawnder a thegwch – gw. Lefiticus 19:35,36; Deuteronomium 25:13-16.
12Mae’r cyfoethog yn treisio’r tlawd,
a’r bobl i gyd yn dweud celwydd –
twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw!
13Dw i’n mynd i’ch taro a’ch anafu’n ddifrifol,
cewch eich dinistrio am bechu.
14Byddwch yn bwyta,
ond byth yn cael digon.6:14 Lefiticus 26:26
Bydd eich plentyn yn marw’n y groth,
cyn cael ei eni;
a bydda i’n gadael i’r cleddyf ladd
y rhai sy’n cael eu geni!
15Byddwch yn plannu cnydau
ond byth yn medi’r cynhaeaf.
Byddwch yn gwasgu’r olewydd
ond gewch chi ddim defnyddio’r olew.
Byddwch yn sathru’r grawnwin,
ond gewch chi ddim yfed y gwin.6:15 Deuteronomium 28:39,40
16Dych chi’n cadw deddfau drwg y Brenin Omri,6:16 a 1 Brenhinoedd 16:23-28; b 1 Brenhinoedd 16:29-34; 21:25,26
ac efelychu arferion drwg y Brenin Ahab!6:16 Omri … Ahab Brenhinoedd teyrnas Israel yn y gogledd ganrif a hanner ynghynt. Roedd y Brenin Ahab yn fab i’r brenin Omri ac wedi priodi Jesebel. Bron ddwy ganrif cyn amser Micha, roedd y proffwyd Elias wedi bod yn herio’r addoliad paganaidd oedd yn digwydd yn amser Ahab (gw. 1 Brenhinoedd 16:21-34; 18:1-18; 21:1-26). –
a dilyn eu polisïau pwdr.
Felly bydd rhaid i mi eich dinistrio chi,
a bydd pobl yn eich gwawdio
ac yn gwneud sbort am eich pen.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015