No themes applied yet
Gweddi dros y brenin
Gan Solomon.
1O Dduw, rho’r gallu i’r brenin i farnu’n deg,
a gwna i fab y brenin wneud beth sy’n iawn.
2Helpa fe i farnu’r bobl yn ddiduedd,
a thrin dy bobl anghenus yn iawn.
3Boed i’r mynyddoedd gyhoeddi heddwch
a’r bryniau gyfiawnder i’r bobl.
4Bydd e’n amddiffyn achos pobl dlawd,
yn achub pawb sydd mewn angen
ac yn cosbi’r rhai sy’n eu cam-drin.
5Bydd pobl yn dy addoli tra bydd haul yn yr awyr,
a’r lleuad yn goleuo, o un genhedlaeth i’r llall.
6Bydd fel glaw mân yn disgyn ar dir ffrwythlon,
neu gawodydd trwm yn dyfrhau’r tir.
7Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau,
ac i heddwch gynyddu tra bo’r lleuad yn yr awyr.
8Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr,
ac o afon Ewffrates i ben draw’r byd!
9Gwna i lwythau’r anialwch blygu o’i flaen,
ac i’w elynion lyfu’r llwch.
10Bydd brenhinoedd Tarshish72:10 Tarshish Porthladd yn Sbaen. a’r ynysoedd yn talu trethi iddo;
brenhinoedd Sheba a Seba72:10 Sheba a Seba Sheba: yn ne-orllewin Arabia; Seba: yn ne Arabia neu falle Affrica. yn dod â rhoddion iddo.
11Bydd y brenhinoedd i gyd yn plygu o’i flaen,
a’r cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu.
12Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen,
a’r tlawd sydd heb neb i’w helpu.
13Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus,
ac yn achub y tlodion.
14Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais;
mae eu bywyd nhw’n werthfawr yn ei olwg.
15Hir oes iddo!
Boed iddo dderbyn aur o Sheba;
boed i bobl weddïo drosto’n ddi-baid
a dymuno bendith Duw arno bob amser.
16Boed digonedd o ŷd yn y wlad –
yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.
Boed i’r cnydau lwyddo fel coed Libanus.
Boed i bobl y trefi ffynnu fel glaswellt.
17Boed iddo fod yn enwog am byth;
a boed i’w linach aros tra bod haul yn yr awyr.
Boed i bobl gael eu bendithio drwyddo,
ac i genhedloedd weld mor hapus ydy e.
18Bendith ar yr ARGLWYDD Dduw!
Duw Israel, yr unig un sy’n gwneud pethau rhyfeddol.
19Bendigedig fyddo’i enw gwych am byth!
Boed i’w ysblander lenwi’r byd i gyd.
Ie! Amen ac Amen.
20Dyma ddiwedd y casgliad yma o weddïau Dafydd fab Jesse.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015