No themes applied yet
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel. 2Dechrau ymadrodd yr Arglwydd trwy Hosea. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea, Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr Arglwydd. 3Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab. 4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod. 5A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.
6A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi Lo-rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr. 7Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda, ac a’u cadwaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt.
8A hi a ddiddyfnodd Lo-rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. 9A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo-ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn Dduw.
10Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych. 11Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.