No themes applied yet
1Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau â’r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais. 2Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel. 3Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn. 4Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam. 5Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr Arglwydd.
6Â pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel Dduw? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid? 7A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid? 8Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw? 9Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a’i hordeiniodd.
10A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a’r mesur prin, peth sydd ffiaidd? 11A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus? 12Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau. 13A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau. 14Ti a fwytei, ac ni’th ddigonir; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a’r hyn a achubych, a roddaf i’r cleddyf. 15Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.
16Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y’th wnawn yn anghyfannedd, a’i thrigolion i’w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.