Y Wyrth Fwyaf Un
Mae ein llyfryn Pasg newydd i blant yn dechrau gyda’r swper olaf, yn ein tywys trwy groeshoeliad Iesu ac yn gorffen gyda’r wyrth fwyaf oll – atgyfodiad Iesu! Wedi'i ysgrifennu'n wych gan Bob Hartman, mae'n anrheg berffaith i blant yn eich teulu, cymuned ac ysgol rannu neges yr efengyl. I rai 7-11 oed.

Our new Easter booklet for children, begins with the last supper, takes us through the crucifixion of Jesus and ends with the greatest miracle of all – the resurrection of Jesus!

Tybed Oes ‘na Fwy i’r Pasg? – Might There Be More to Easter? (Welsh edition)
Mae’r Pasg yn un o brif ddathliadau’r calendr Cristnogol ond pa mor dda ydym ni’n deall ei ystyr? Pam ydym ni’n dathlu’r Pasg? Pwy oedd yr Iesu? Pam y gwnaeth farw? Archwiliwch y cwestiynau hyn a mwy.

beibl.net - i bobl ifanc – Welsh Youth Bible
Yn cyflwyno beibl.net i bobl ifanc - y Beibl Cymraeg newydd i bobl ifanc, wedi’i greu mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas y Beibl a Youth for Christ. Dim ots faint o weithiau rydych wedi darllen y Beibl o’r blaen neu ba mor agos rydych yn teimlo at Dduw, hwn yw’r llyfr i chi.